[Unicode]  Beth yw Unicode? Home | Site Map | Search 
 

Beth yw Unicode?

Mae Unicode yn darparu rhif unigryw ar gyfer pob nod,
heb ddibynnu ar y platfform,
heb ddibynnu ar y rhaglen,
heb ddibynnu ar yr iaith.

Yn sylfaenol mae cyfrifiaduron yn ymdrin â rhifau yn unig. Maen nhw'n amgodio llythrennau a nodau eraill trwy neilltuo rhif ar gyfer pob un ohonyn nhw. Cyn dyfodiad Unicode roedd 'na gannoedd o wahanol systemau amgodio ar gyfer neilltuo'r rhifau. Ni allai unrhyw system amgodio gynnwys digon o nodau: er enghraifft, mae angen sawl system amgodio wahanol ar gyfer ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd yn unig. Hyd yn oed ar gyfer iaith unigol, fel y Saesneg, doedd un system amgodio ddim yn ddigonol i ymdopi â'r llythrennau, atalnodau â symbolau a arferid.

Mae'r systemau hyn yn gwrthdaro â'u gilydd. Hynny yw, mae modd i ddwy system amgodio defnyddio yr un rhif ar gyfer nodau gwahanol, neu ddefnyddio rhifau gwahanol ar gyfer yr un nòd. Mae rhaid i unrhyw gyfrifiadur penodol ( yn arbennig gweinyddwyr ) gynnal amrywiaeth o systemau amgodio; eto pan fydd data yn cael ei drosglwyddo rhwng systemau amgodio neu blatfformau gwahanol mae 'na beryg y bydd y data hwn yn cael ei lygru.

Mae Unicode yn newid hyn i gyd !

Mae unicode yn neilltuo rhif unigryw ar gyfer pob nod, dim ots pa blatfform, dim ots pa iaith. Mae Safon Unicode wedi ei mabwysiadu gan gwmniau blaen megis Apple, HP, IBM, JustSystem, Microsoft, Oracle, SAP, Sun, Sybase, Unisys ac eraill. Mae Unicode yn ofynnol gan safonau modern megis XML, Java, ECMAScript (JavaScript), LDAP, CORBA 3.0, WML, ayb. Dyma'r ffordd swyddogol i weithredu ISO/IEC 10646. Cynhelir y safon gan lawer o systemau gweithredu, pob porwr modern a llu o gynhyrchion eraill. Mae ymddangosiad Safon Unicode a'r offer i'w chynnal ymysg y mwyaf pwysig o ddatblygiadau  byd-eang diweddar yn nhechnoleg meddalwedd.

Mae cynnwys Unicode mewn cymwysiadau cleient/gweinyddwr neu aml-haen a safleoedd ar y wê yn cynnig arbedion sylweddol dros y defnydd o setiau nodau cymyn. Mae Unicode yn galluogi pecyn meddalwedd unigol neu safle unigol ar y wê i weithredu ar draws amrywiaeth o blatfformau, ieithoedd a gwledydd heb gael ei ail-weithio. Mae'n caniatáu trosglwyddo data trwy sawl system wahanol heb ei lygru.

Ynglŷn â'r Consortiwm Unicode

Mae'r Consortiwm Unicode yn gyfundrefn ddi-elw a sefydlwyd i ddatblygu, ehangu a hyrwyddo defnydd o'r Safon Unicode sy'n manylu ar gynrychioliad testun mewn pecynnau meddalwedd modern. Mae aelodaeth y consortiwm yn cynrychioli ystod eang o gorfforaethau a chyfundrefnau yn y diwydiant cyfrifiadurol a phrosesu gwybodaeth. Cynhelir y consortiwm yn ariannol trwy daliadau aelodaeth yn unig. Mae aelodaeth o'r Consortiwm Unicode yn agored i gyfundrefnau ac unigolion unrhywle yn y byd sy'n cefnogi'r Safon Unicode ac eisiau cynorthwyo yn y gwaith o'i hestyn a'i gweithredoli.

Am fwy o wybodaeth gwelwch y rhestr termau, cynnyrch sy'n defnyddio Unicode, rhagarweiniad technogol ac adnoddau defnyddiol [tudalennau Saesneg].

Welsh translation by Neil Shadrach